Siop Recordiau TANT
YN Y GWAED – RHES GANOL (Tant 002)
Pris: £12
Cryno-ddisg o’r recordiadau cyntaf erioed o gôr telynau teires. Côr ydy Rhes Ganol sy’n dilyn ôl troed y côr telynau teires olaf yng Nghymru i berfformio mewn Eisteddfod Genedlaethol ers cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gerddoriaeth wedi ei ymchwilio, ei ddewis a’i drefnu gan aelodau’r grwp, ac yn cael ei chwarae yn null traddodiadol yr hen delynorion Cymreig. Mae’r deires wedi ei chanu yma ers dros dair canrif.
Aelodau’r côr ydy : Rhiain Bebb, Robin Huw Bowen, Huw Roberts, Wynn Thomas a’i fab Steffan. Ceir rhestr o’r traciau isod, yn ogystal â blas o seiniau unigryw yr offerynnau. Gellir archebu’r gryno-ddisg drwy’r safle hwn yn ogystal â thocynnau i’r cyngerdd lawnsiad ar nos Iau, Awst 5ed yng Ngwesty’r Angel, Y Fenni. Mae’n briodol fod y lawnsiad hwn yn digwydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol mewn ardal a roddodd gymaint o fri i’r delyn deires drwy weithagareddau Cymreigyddion Y Fenni a brwdfrydedd Gwenynen Gwent, Arglwyddes Llanofer yn y 19G.
Ffurfiwyd Rhes Ganol yn 2000 er mwyn ennyn diddordeb yn ein hofferyn cenedlaethol â’r toreth o alawon Cymreig a’u hamrywiadau. Yn ogystal â dennu cynulleidfa newydd, mae’r côr hefyd yn gobeithio codi proffil y deires ymysg cerddorion, yn arbennig y to sy’n codi. Trwyddyn nhw gellir sicrhau parhad y traddodiad arbennig hwn i’r oesoedd a ddel.
Y Traciau
- Pwt ar y Bys
- Gwenynen Gwent (Rhagflas)
- Ty Uchaf
- Pibddawns y Sipsi Newydd/Pibddawns Glyndwr
- DDafydd y Garreg Wen/Marwnad yr Ehedydd (Rhagflas)
- Y Dydd
- Cynghansail y Cymry
- Llwyn Onn/ Cader Idris
- Moel yr Wyddfa (Rhagflas)
- Walts Llanddwyn/Walts Trefforest (Rhagflas)
- Merch Megan
- Breuddwyd y Frenhines/Caru Doli
- Morfa’r Frenhines
- Rhif Wyth/Y Polca Cymreig (Rhagflas)
COFIA – DY WERIN (Tant 001)
Pris: £10
Mae Cofia dy Werin yn gryno-ddisg sy’n adlewyrchu ystod eang o gerddoriaeth gwerin Cymreig. Ceir arni hen alawon a hefyd rhai newydd a ysgrifenwyd yn arddull yr alawon dawns traddodiadol. Yn eu mysg mae nifer o alawon gan Rhiain Bebb, cerddor adnabyddys ym myd dawnsio gwerin yng Nghymru. Gellir defnyddio rhai o’r traciau at bwrpas dawnsio yn ogystal â gwrando ar rai o gerddorion dawns gorau y traddodiad Cymreig.
Cynhyrchwyd clawr blaen a chefn unigryw i Cofia dy Werin gan yr arlunydd enwog Ogwyn Davies. Mae print o nifer cyfyngedig ohono ar gael wedi ei fframio neu yn ddi-ffram a phob un wedi ei arwyddo gan yr artist. Rhoddir cyfraniad o bob gwerthiant at elusen o ddewis yr arlunydd.
Gellir prynnu llyfr o alawon Cofia dy Werin sy’n cynnwys nifer o alawon dawns a ysgrifenwyd dros y blynyddoedd gan Rhiain Bebb fel ail donnau i ddawnsfeydd gwerin Cymreig.
Print argraffiad cyfyngedig ‘Cofia dy Werin’ gan Ogwyn Davies
Wedi ei fframio mewn pren naturiol a’i arwyddo gan yr Arlunydd.
Wedi ei arwyddo gan yr arlunydd – heb ei fframio.
Llyfr alawon Cofia dy Werin gan Rhiain Bebb
Gellir prynnu llyfr o alawon Cofia dy Werin sy’n cynnwys nifer o alawon dawns a ysgrifenwyd dros y blynyddoedd gan Rhiain Bebb fel ail donnau i ddawnsfeydd gwerin Cymreig.