Tant Records. Traditional Welsh folk music

RECORDIAU TANT CYF

Sefydlwyd Tant yn 2003 i gyhoeddi, datblygu a hyrwyddo cerddoriaeth traddodiadol Cymreig yn ogystal â cherddoriaeth a seiliwyd ar y traddodiad. Un o amcanion y Cwmni yw ennyn diddordeb ehangach mewn cerddoriaeth traddodiadol o Gymru i chwarae, gwrando a dawnsio iddo. Y gobaith yw cyfuno dawn gerddorol efo ymchwil manwl i adlewyrchu ein brwdfrydedd a’n gwir barch i’n gorffennol.

Siop Tant

Ymwelwch â Siop Recordiau TANT I brynu cryno ddisgiau a nwyddau eraill ar-linell. Gweler grynodeb o’r nwyddau isod.
Rhes Ganol. Click to buy

YN Y GWAED – RHES GANOL Tant 002

Cryno-ddisg o’r recordiadau cyntaf erioed o gôr telynau teires. Côr ydy Rhes Ganol sy’n dilyn ôl troed y côr telynau teires olaf yng Nghymru i berfformio mewn Eisteddfod Genedlaethol ers cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gerddoriaeth wedi ei ymchwilio, ei ddewis a’i drefnu gan aelodau’r grwp, ac yn cael ei chwarae yn null traddodiadol yr hen delynorion Cymreig. Mae’r deires wedi ei chanu yma ers dros dair canrif. Mwy o Fanylion/I brynnu >>


Cofia Dy Werin. Click to buy

COFIA – DY WERIN Tant 001

Mae Cofia dy Werin yn gryno-ddisg sy’n adlewyrchu ystod eang o gerddoriaeth gwerin Cymreig. Ceir arni hen alawon a hefyd rhai newydd a ysgrifenwyd yn arddull yr alawon dawns traddodiadol. Yn eu mysg mae nifer o alawon gan Rhiain Bebb, cerddor adnabyddys ym myd dawnsio gwerin yng Nghymru. Gellir defnyddio rhai o’r traciau at bwrpas dawnsio yn ogystal â gwrando ar rai o gerddorion dawns gorau y traddodiad Cymreig. Mwy o Fanylion/I brynnu >>


Print argraffiad cyfyngedig ‘Cofia dy Werin’ gan Ogwyn Davies

Wedi ei fframio mewn pren naturiol a’i arwyddo gan yr Arlunydd. Mwy o Fanylion/I brynnu >>


Llyfr alawon Cofia dy Werin gan Rhiain Bebb

Gellir prynnu llyfr o alawon Cofia dy Werin sy’n cynnwys nifer o alawon dawns a ysgrifenwyd dros y blynyddoedd gan Rhiain Bebb fel ail donnau i ddawnsfeydd gwerin Cymreig..
Mwy o Fanylion/I brynnu >>